Ein Cynnig

Ynglŷn â’r cynigion:

  • Gwesty newydd â 90 ystafell wely, un bwyty, tair uned manwerthu/bwyty ac uned gampfa/busnes
  • Bydd mynediad i gerbydau ar gyfer cwsmeriaid a staff a gwasanaethu yn dod o Mostyn Broadway a bydd yn gadael gan ddefnyddio Ffordd Conwy
  • Mae’r cynnig yn golygu buddsoddiad o £12 miliwn ar gyfer Llandudno ac at ei gilydd mae disgwyl i’r cynllun gyflawni oddeutu 110 o rolau cyfwerth ag amser llawn
  • Bydd y cynllun yn darparu 3 lle hygyrch a 6 lle anweithredol
  • Bydd yn creu 22 o leoedd parcio ar gyfer beiciau gan helpu i hyrwyddo dulliau teithio gwyrdd
  • Bydd yn ail-greu’r ffasâd rhestredig blaenorol

Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn y dogfennau cynllunio drafft sydd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar ein tudalen Dogfennau a Lawrlwythiadau.

Priffyrdd, mynediad, a pharcio

Bydd mynediad i gerbydau ar gyfer cwsmeriaid a staff yn dod o Mostyn Broadway a bydd yn gadael gan ddefnyddio Ffordd Conwy  Bydd yr ardal gollwng bresennol wrth flaen y gwesty yn cael ei chadw. Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethu hefyd yn cyrraedd o Mostyn Broadway a gadael trwy Ffordd Conwy.

Lleolir y safle mewn lleoliad cynaliadwy yng nghanol y dref ag ystod eang o wasanaethau cludiant cyhoeddus. Bydd y cynllun yn darparu 3 lle hygyrch a 6 lle parcio anweithredol

O ran parcio ar gyfer beiciau, cynigir 22 o leoedd yn unol â safonau parcio.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ategol ac adroddiadau ymgynghorwyr ynghylch y trefniadau traffig, mynediad a pharcio wedi’u cynnwys yn y dogfennau sydd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yma.

Dyluniad cyfoes

Mae dyluniad y datblygiad yn dibynnu ar ail-greu’r ffasâd rhestredig.  Mae ychwanegiadau newydd yn y cefn a’r ochr wedi’u cynllunio’n sensitif i ategu’r prif adeilad a bod yn eilradd o ran graddfa a màs.

Yn anffodus, roedd rhaid dymchwel y ffasâd rhestredig gradd dau gwreiddiol gan nad oedd yr adeilad yn gadarn ei strwythur. Roedd ein cais yn 2018 yn ceisio ailadeiladu’r ffasâd blaenorol tebyg am debyg gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol.

Mae’r gwaith adeiladu bron wedi’i gwblhau.