Cyhoeddi ymgynghoriad ar ailddatblygiad Gwesty Tudno Castle

Mae Tudno Developments Ltd, rhan o Opus Land (North), yn cyflwyno cais cynllunio diwygiedig ar gyfer ailddatblygu safle Gwesty Tudno Castle gynt.

Ym mis Mawrth 2018, cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu’r safle’n westy 63 ystafell wely, tri bwyty, dwy uned fanwerthu a champfa, ynghyd ag ailgreu ffasâd rhestredig yr adeilad.

Ers hynny, mae’r gofynion i weithredwyr wedi newid oherwydd newidiadau economaidd yn y farchnad. O ganlyniad, mae angen newidiadau pellach er mwyn darparu 27 ystafell wely arall, gan helpu i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yn Llandudno ymhellach.

Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys gwesty 90 ystafell wely, un bwyty a thair uned fanwerthu/bwytai ac uned fusnes/campfa. Mae angen cyflwyno cais cynllunio newydd i Gyngor Sir Conwy ar gyfer y newidiadau hyn.

Mae Tudno Developments Ltd yn ymrwymedig i ymgynghori â’r gymuned leol, a hoffem wahodd trigolion lleol i weld y cynlluniau’n fanylach ar wefan y prosiect yn www.tudnocastle.consultationonline.co.uk

Dywedodd llefarydd ar ran Tudno Developments Ltd:

“Mae cynlluniau ar gyfer y safle wedi bod ar y gweill ers dymchwel yr adeilad yn 2014, ac rydym am gyflawni’r datblygiad £12 miliwn hwn ar gyfer pobl Llandudno fwy nag erioed.”

“At ei gilydd, amcangyfrifwn y bydd ein cynnig yn creu 100 o swyddi i bobl leol yn Llandudno.”

“Rydym yn gwahodd y gymuned i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus drwy ymweld â gwefan y prosiect neu dryw ffonio’r llinell wybodaeth.”

Yn ogystal ag ymweld â gwefan y prosiect yn www.tudnocastle.consultationonline.co.uk, gall trigolion hefyd rannu eu hadborth a gofyn am ragor o wybodaeth drwy gysylltu â thîm y prosiect drwy ffonio rhadffôn 0800 298 7040 neu e-bostio feedback@consultation-online.co.uk.