Ailddatblygu Gwesty Castell Tudno, Llandudno

Mae Tudno Developments [Datblygiadau Tudno] Cyf (rhan o Opus North) yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio newydd ynghylch tir yng Ngwesty Castell Tudno, Stryd Fychan, Llandudno.

Ym mis Mawrth 2018, cafwyd caniatâd cynllunio i ailddatblygu’r safle yn westy â 63 gwely, 5 bwyty ac un uned fusnes. Erbyn hyn mae angen newidiadau pellach er mwyn darparu 27 ystafell westy arall, addasiadau i’r bwytai, ymhlith newidiadau eraill. Mae’r newidiadau hyn yn galw am gais cynllunio newydd i Gyngor Sir Conwy, yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf.

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, sbardunodd Tudno Developments Cyf y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio o 28 diwrnod ar Dydd Gwener 30 Hydref 2020 ar gyfer y cynnig hwn.

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion yn ogystal â’r dogfennau cynllunio drafft yn yr adran Dogfennau a Lawrlwythiadau.

Bydd Tudno Developments Cyf yn cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Sir Conwy ym mis Tachwedd 2020. Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau a’ch adborth ar ein cynigion.

 

Ynglŷn â Tudno Developments

Mae Tudno Developments Cyf yn rhan o Opus North a sefydlwyd i gyflawni cynnig Gwesty Castell Tudno.

Sefydlwyd Opus Land ym 1999 a sefydlwyd Opus North yn 2008. Mae’r cwmni wedi bod yn weithredol byth ers hynny, gan gyflwyno datblygiadau blaenllaw o ansawdd uchel ledled y wlad, o Fanceinion a Lerpwl i Gaer a Leeds. Mae Opus North yn arbenigo mewn swyddfeydd, datblygiadau diwydiannol a manwerthu.

Hanes Cynllunio

Yn 2014 fe wnaeth Opus North (Llandudno) Cyf a Tudno Development Cyf, rhan o Opus North, dderbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Conwy i ailddatblygu Gwesty Castell Tudno a oedd yn ddiffaith. Dechreuodd y gwaith ar y datblygiad yn gynnar yn 2017. Fodd bynnag, wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen fe ddaeth yn amlwg bod yr adeilad mewn cyflwr llawer gwaelach nag a feddyliwyd yn gyntaf ac roedd angen ei ddymchwel.

Yn erbyn y cefndir hwn, yn 2018 derbyniodd Tudno Development Cyf ganiatâd cynllunio ar gyfer dymchwel ac ailadeiladu’r hen Westy Castell Tudno. Fe nododd amod o’r caniatâd cynllunio bod rhaid ail-greu ffasâd yr adeilad fel y bydd yr adeilad yn cadw ei olwg wreiddiol o’r tu allan ochr yn ochr â’r elfennau manwerthu newydd.

Ers hynny mae’r gwaith datblygu wedi cychwyn, dymchwelwyd y gwesty yn Haf 2018 a dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r adeilad newydd yn ystod Gaeaf 2018.  Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r gwaith adeiladu allanol bron wedi’i gwblhau ar ddechrau mis Rhagfyr.